SL(5)126 – Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2017

 

Cefndir a Phwrpas

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2015 (OS 2015/1867 (Cy. 274)) ("Rheoliadau 2015").

Mae'r diwygiadau yn-

(a)   gweithredu'r gofynion monitro diwygiedig ar gyfer dŵr ffynnon a dŵr wedi'i botelu y darperir ar eu cyfer gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (UE) 2015/1787. Mae'r diwygiadau yn dileu'r gofyniad i awdurdodau bwyd ymgymryd â monitro ar gyfer gwirio ac archwilio dŵr ffynnon a dŵr yfed wedi’i botelu  (rheoliadau 8 a 14);

(b)   darparu y caniateir i ddŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon sydd wedi cael triniaeth tynnu fflworid neu driniaeth aer a gyfoethogir ag osôn mewn gwlad nad yw’n Wladwriaeth AEE gael eu gwerthu yng Nghymru. Dim ond os yw’r triniaethau hynny wedi cael eu hawdurdodi gan yr awdurdod cyfrifol yn y wlad honno nad yw’n Wladwriaeth AEE, a bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd neu’r awdurdod cyfrifol mewn rhan arall o’r DU neu’r AEE wedi penderfynu bod y weithdrefn ar gyfer awdurdodi’r driniaeth yn y Wladwriaeth honno yn cyfateb i’r gofynion o dan Erthyglau 1 i 3 o Reoliad (EU) 115/2010 y caniateir gwerthu dŵr o'r fath (rheoliadau 3, 9 a 10);

(c)   egluro y caniateir i ddŵr mwynol naturiol na dŵr ffynnon sydd wedi eu hechdynnu y tu allan i Gymru gael eu gwerthu yng Nghymru os ydynt yn cydymffurfio â gofynion Rheoliadau 2015 mewn perthynas â datblygu (yn achos dŵr mwynol naturiol), triniaethau ac ychwanegiadau, a gofynion potelu a labelu (rheoliadau 4 a 7);

(d)   egluro nad yw’r rheolau ar driniaethau ac ychwanegiadau yn atal dŵr ffynnon rhag cael ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu diodydd ysgafn (rheoliad 5);

(e)   gwahardd hysbysebu dŵr ffynnon mewn ffordd a allai beri dryswch rhwng y dŵr a dŵr mwynol naturiol, a gwahardd defnyddio “mineral water”, “dŵr mwynol”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, wrth hysbysebu dŵr ffynnon (rheoliad 6);

(f)    cywiro dau wall yn nhestun Cymraeg Rheoliadau 2015 (rheoliadau 11 a 12 (b));

(g)   cywiro amrywiol wallau eraill yn Rheoliadau 2015 (rheoliadau 12(a) a 13); ac

(h)   egluro bod cyfnod yr esemptiad o’r monitro ar gyfer sylweddau ymbelydrol penodol yn para am 5 mlynedd (rheoliad 15). 

 

Y weithdrefn

Negyddol

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Craffu ar rinweddau

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y Goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan o "ddeddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE" o dan gymal 2 o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ("y Bil") fel y'i cyflwynwyd, felly bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu cadw fel cyfraith ddomestig a byddant yn parhau i fod mewn grym yng Nghymru ar ôl y diwrnod gadael.

Mae'r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru addasu'r Rheoliadau hyn er mwyn ymdrin â diffygion sy'n deillio o ymadael, yn amodol ar rai cyfyngiadau (er enghraifft, ni fydd Gweinidogion Cymru yn gallu defnyddio'r pŵer hwn i wneud rhywbeth sy'n anghyson ag addasiadau i "ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a gedwir" a wnaed gan Weinidogion y DU o dan y Bil).

Ni fydd y Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru (na Chynulliad Cenedlaethol Cymru) addasu unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a gedwir. Rhoddir pŵer i addasu holl ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a gedwir i Weinidogion y DU; mae hyn yn cynnwys y pŵer i addasu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a gedwir mewn meysydd datganoledig heb yr angen am ganiatâd Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Weinidogion Cymru.

Felly, os bydd Gweinidogion y Deyrnas Unedig yn defnyddio eu pwerau i addasu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a gedwir, bydd pŵer Gweinidogion Cymru i addasu'r Rheoliadau hyn yn gyfyngedig fel na all Gweinidogion Cymru wneud dim sy'n anghyson â'r addasiad a wneir gan Weinidogion y DU.

 

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb y llywodraeth.

 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

3 Hydref 2017